Player FM - Internet Radio Done Right
Checked 20d ago
Added two years ago
Content provided by Yr Hen Iaith. All podcast content including episodes, graphics, and podcast descriptions are uploaded and provided directly by Yr Hen Iaith or their podcast platform partner. If you believe someone is using your copyrighted work without your permission, you can follow the process outlined here https://player.fm/legal.
Player FM - Podcast App
Go offline with the Player FM app!
icon Daily Deals

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Martha, Jac, a Sianco

24:57
 
Share
 

Manage episode 473014139 series 3455484
Content provided by Yr Hen Iaith. All podcast content including episodes, graphics, and podcast descriptions are uploaded and provided directly by Yr Hen Iaith or their podcast platform partner. If you believe someone is using your copyrighted work without your permission, you can follow the process outlined here https://player.fm/legal.
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r strwythur. Er bod cymaint o realiti caled yn y nofel, nodwn fod elfennau sy’n mynd yn groes i realaeth hefyd wrth i’r darllenydd brofi agweddau swreal neu hudol. Awgrymwn fod naws gothig hefyd a’i bod yn bosibl gweld cysgod ‘Mami’ fel fersiwn gwyrdroëdig o’r ‘Fam Gymreig’ ystrydebol. * We discuss Martha, Jac a Sianco in this episode, scrutinizing how the novel depicts the dark side of rural life. We find that even the most shocking aspects of the novel reflect reality and that this courageous work goes against a stream of Welsh literature that elevates, romanticises and idealises the life of the farmer. We praise Caryl Lewis's craft as we scrutinize the character and structure. While there is so much hard reality in the novel, we note that there are also elements that conflict with realism as the reader experiences surreal or magical aspects. We suggest that there is also a gothic feel to it and that it is possible to see the shadow of 'Mami' as an inverted version of the stereotypical 'Welsh Mam'. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/Help%20Llaw/Martha%20Jac%20Sianco.pdf
  continue reading

83 episodes

iconShare
 
Manage episode 473014139 series 3455484
Content provided by Yr Hen Iaith. All podcast content including episodes, graphics, and podcast descriptions are uploaded and provided directly by Yr Hen Iaith or their podcast platform partner. If you believe someone is using your copyrighted work without your permission, you can follow the process outlined here https://player.fm/legal.
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r strwythur. Er bod cymaint o realiti caled yn y nofel, nodwn fod elfennau sy’n mynd yn groes i realaeth hefyd wrth i’r darllenydd brofi agweddau swreal neu hudol. Awgrymwn fod naws gothig hefyd a’i bod yn bosibl gweld cysgod ‘Mami’ fel fersiwn gwyrdroëdig o’r ‘Fam Gymreig’ ystrydebol. * We discuss Martha, Jac a Sianco in this episode, scrutinizing how the novel depicts the dark side of rural life. We find that even the most shocking aspects of the novel reflect reality and that this courageous work goes against a stream of Welsh literature that elevates, romanticises and idealises the life of the farmer. We praise Caryl Lewis's craft as we scrutinize the character and structure. While there is so much hard reality in the novel, we note that there are also elements that conflict with realism as the reader experiences surreal or magical aspects. We suggest that there is also a gothic feel to it and that it is possible to see the shadow of 'Mami' as an inverted version of the stereotypical 'Welsh Mam'. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/Help%20Llaw/Martha%20Jac%20Sianco.pdf
  continue reading

83 episodes

All episodes

×
 
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r wedd honno ar gymdeithas mewn modd beirniadol. Craffwn hefyd ar ymdriniaeth y chwedl â rhyfel a heddwch, gan nodi arwyddocâd y rhyfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i achub Branwen. ** Branwen daughter of Llŷr We have a great time in this episode while discussing ‘The Second Branch of the Mabinogi’, namely the tale of ‘Branwen daughter of Llŷr’. We consider a number of things about this exciting story, asking interesting questions about its relationship with the medieval society to which it belonged. We note that it is in essence a story about a royal marriage, and we suggest that it’s possible to read it as a radical text which addresses this aspect of society in a critical fashion. We also examine the tale’s treatment of war and peace, noting the significance of the apocalyptical war which kills most of the population of Ireland and most of the great army which crossed the sea to save Branwen. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Dyma bennod yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n trafod y chwedl: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-5-chwedl-branwen - Hefyd, mae penodau am weddill ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ac un sy’n trafod ‘y chwedlau brodorol’ yn gyffredinol: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-3-y-chwedlau-brodorol https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-4-chwedl-pwyll-pendefig-dyfed https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-6-manawydan-a-seiliau-cymdeithas https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-7-trafferthion-teuluol-math - Deunydd astudio CBAC, wedi’i baratoi gan yr Athro Sioned Davies: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/index.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/23cymeriadau3.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/14themau4.html…
 
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich a oedd yn cydweithio ym mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion, a hynny, mae’n debyg, ar gyfer dyn o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Pwysleisiwn fod creu llawysgrif yn broses lafurus iawn a gymerai lawer o amser ac adnoddau a bod llawysgrif yn beth hynod werthfawr o’r herwydd. Roedd gwneuthurwyr llawysgrifau canoloesol felly’n dewis cynnwys eu ‘llyfrau’ yn ofalus iawn. Nodwn fod ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’ a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch, gan ystyried hefyd y ffaith bod rhychwant eang o wahanol destunau wedi’u cynnwys yn y llawysgrif hefyd. ** The next episode focusses on the tale ‘Branwen daughter of Llŷr’ (or ‘The Second Branch of the Mabinogi’). We prepare for that discussion in this episode by looking at the earliest manuscript which contains a complete copy of the tale, namely the White Book of Rhydderch. This manuscript was created about the year 1350 by a number of monks working together in the monastery of Strata Florida in Ceredigion, most likely for a man named Rhydderch ab Ieuan Llwyd. We stress the fact that creating a manuscript was a very laborious process which took a lot of time and resources and that a manuscript was and is an extremely valuable thing because of that. The makers of medieval manuscripts thus chose the contents of their ‘books’ very carefully. We note that ‘The Four Branches of the Mabinogi’ are among the ‘native tales’ found in the White Book of Rhydderch, while also considering the fact that a wide selection of different texts is also included in the manuscript. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Cewch weld copi digidol o’r holl lawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-gwyn-rhydderch - Cewch glywed rhagor am greu llawysgrifau Cymraeg canoloesol yn y bennod hon yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-2-y-llawysgrif-gymraeg-gyntaf-sydd-wedi-goroesi…
 
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn yn cyferbynnu cariad cnawdol a chariad ysbrydol a’i fod hefyd yn gyfansoddiad sy’n amlygu tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson. ** ‘Trouble at an Inn’ We have fun in this episode while discussing Dafydd ap Gwilym’s famous self-satirical cywydd. This is a narrative poem which describes an unsuccessful attempt to meet a woman late at night, and by reciting this story Dafydd is satirizing the very bardic persona which is central to so many of his cywyddau. But we note that there are serious themes here as well, despite all of the fun; it’s possible to argue that this cywydd contrasts bodily love with spiritual love and that it is a composition which expresses tensions between the Welsh Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster: http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/04-trafferth-mewn-tafarn.html - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3…
 
‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn personoli mis Mai ac awgrymu’i fod yn defnyddio rhai o nodweddion y canu mawl, gan wneud yr elfennau traddodiadol hyn yn rhan o’i gyfansoddiad gwreiddiol ef. ** ‘May and November’ In this episode we discuss one of Dafydd ap Gwilym’s nature poems, namely the famous cywydd which contrasts the month of May with the ‘dark angry’ month. While considering two connected themes which are central to Dafydd’s work, love and nature, we note that the poem welcomes May as it signifies the beginning of summer – the season which allows him to meet his lover(s). We examine the way in which Dafydd personifies the month of May and suggest that he uses some aspects of praise poetry, making these traditional elements part of his original composition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/03-mis-mai-a-mis-tachwedd.html - Nodiadau dosbarth CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2010-11/welsh/irf10-00/cdag/3%20%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/2%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/Nodiadau%20dosbarth%20-%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3…
 
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. Gwerthfawrogwn ddisgrifiadau hudolus Dafydd o’r aderyn a cheisiwn ddyfalu pa dref gastellog y cyfeirir ati. Nodwn fod hen thema gyfarwydd arall yn ymddangos yn y gerdd hon, sef honiad Dafydd ei fod yn glaf oherwydd cariad. ** ‘The Seagull’ In this episode we look at one of Dafydd ap Gwilym’s cywyddau llatai and explain the meaning of that word – ‘llatai’ – and discuss the usual pattern followed by these kinds of cywyddau. This is a kind of poem which combines two of Dafydd’s favourite themes, love and nature, giving the poet’s imagination free rein as he personifies the seagull and flatters it. We appreciate Dafydd’s charming descriptions of the bird and try to guess which fortified town is referred to in the poem. We note that another old familiar theme appears in this work, namely Dafydd’s claim that he is sick because of love. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/02-yr-wylan.html - Sangiadau a brawddegau’r cywydd: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/support-files/uned3/yr-wylan/Yr%20Wylan%20-%20brawddegau%20sangiadau.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3…
 
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni Owain. Ac wrth graffu ar y geiriau sy’n agor ac yn cloi’r gerdd, pwysleisiwn ei bod hi’n perthyn i gyd-destun cwbl Gristnogol a bod y farwnad hon yn cyfuno mawl gyda gweddi. ** ‘Elegy for Owain son of Urien’ In this episode we look at another of Taliesin’s poems. The praise tradition including paying tribute to dead leaders, and that’s what we have in this powerful poem. We note that this elegy for Owain refers to the victory celebrated in another of Taliesin’s poems, ‘The Battle of Argoed Llwyfain’; there is a sense that the real feats of a real man are being commemorated here. In addition to his military ability, the bard praises Owain’s generosity. And while considering the words which open and close the poem, we stress that it belongs to an entirely Christian context and that this elegy combines praise with prayer. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/03-marwnad-owain.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/2%20Marwnad%20Owain%20ab%20Urien/MARWNAD%20OWAIN%20AB%20URIEN%20Nodiadau%20geiriau.docx…
 
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd yr Eingl Sacsoniaid. Nodwn fod y gerdd waedlyd hon hefyd yn hoelio sylw ar swyddogaeth y bardd ei hun. ** ‘The Battle of Argoed Llwyfain’ This episode discusses one of the poems attributed to the bard Taliesin. The word ‘gwaith’ means ‘battle’, and although we don’t know where exactly Argoed Llwyfain was, it’s certain that the location was in the Old North and that this battle took place sometime towards the end of the sixth century. It was a victory for the Brittonic Celts and the bard praises their leaders, Urien and his son, Owain. We discuss the poem’s dramatic nature, as the bard recreates the discussion before the battle between Owain and Fflamddwyn, the leader of the Angl-Saxons. We note that this bloody poem also draws attention to the function of the poem himself. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/02-gwaith-argoed-llwyfain.html http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/1%20Argoed%20Llwyfain/GWAITH%20ARGOED%20LLWYFAIN%20Nodiadau%20geiriau.docx…
 
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol wrth iddynt deithio o’r Hen Ogledd i Gymru. A digwyddodd rhywbeth arall yn ystod y daith honno hefyd: oherwydd ei statws fel un o’r cynfeirdd sy’n sefyll ar ddechrau hanes y traddodiad barddol Cymraeg, aeth Taliesin yn gymeriad chwedlonol. Felly yn ogystal â’r canu mawl hanesyddol, mae Llyfr Taliesin yn cynnwys nifer o gerddi a gysylltir â’r Taliesin chwedlonol, cymeriad gyda phwerau goruwchnaturiol sy’n ymgnawdoliad o hud a grym barddoniaeth Gymraeg. ** The Book of Taliesin Here we introduce the episodes which discuss two of Taliesin’s poems, and we do that by looking at the Book of Taliesin itself, one of the treasures kept in the National Library of Wales. This amazing manuscript was created during the first half of the fourteenth century, but it includes a collection of poems which are attributed to Taliesin, the bard who sang praise to the leaders of his society in the Old North in the sixth century. It’s interesting to think about these poems travelling through time from that ancient period to the Middle Ages as they travelled from the Old North to Wales. And something else happened during that journey as well: because of his status as one of the earliest poets standing at the beginning of the Welsh bardic tradition, Taliesin became a legendary character. Thus, in addition to the historical praise poetry, the Book of Taliesin contains a number of poems connected to the legendary Taliesin, a character with supernatural powers who is an incarnation of Welsh poetry’s magic and might. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Mae’n bosibl gweld y llawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-taliesin…
 
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa drist, gan gynnwys y gwaed sy’n gwlychu arfwisg y milwr marw hwn. Pwysleisiwn fod un o’r llinellau hyn – ‘Beirdd byd barnant ŵr [neu ‘wŷr’] o galon’ – yn hoelio sylw ar swyddogaeth gymdeithasol y bardd. * Here we discuss an elegy to another of the Gododdin’s dead warriors, Buddfan fab Bleiddfan. We note that ‘arwr’ (‘hero’) is the first word, summarizing effectively the picture we get in the following lines. We also note that the last word, ‘dihafarch’ (‘brave’) encapsulates this elegy’s main message. Like the first awdl, death in battle is described here as ‘feeding crows’. This is poetry which urges us to see the sad scene, including the blood soaking this dead soldier’s armour. We stress that one of these lines – ‘Beirdd byd barnant ŵr [‘wŷr’] o galon’ – focusses attention on the poet’s social function. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/03-awdl-xxiv-aneirin.html…
 
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, namely an elegy for Ywain, a warrior described as ‘Marro’s only son’. We note that the style is very sparse yet also extremely powerful; here is a poet who does a lot with a few words. We learn a number of things about Ywain: he was a brave soldier, he died in the battle, and he was very young when he died. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/02-awdl-i-aneirin.html…
 
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododdin a gofyn cwestiwn cymhleth am daith yr hen farddoniaeth hon o’r ‘Hen Ogledd’ i’r Gymru ganoloesol. Edrychwn hefyd ar nodiadau diddorol yn y llawysgrif sy’n awgrymu sut oedd rhai beirdd diweddarach yn ystyried pwysigrwydd a gwerth Llyfr Aneirin. * The Book of Aneirin This episode prefaces the episodes which discuss two of Canu Aneirin’s awdlau. Here we are in the National Library of Wales, looking at the Book of Aneirin itself! This manuscript was written between about 1250 and 1300. As it’s likely that it was written during the final years of ‘the independent Wales, we wonder if there’s a connection between that political context and the contents of the manuscript?! We discuss the Gododdin and ask a complicated question about the journey of this old poetry from the ‘Old North’ to medieval Wales. We also look at interesting notes in the manuscript which suggest how some later poets viewed the importance and value of the Book of Aneirin. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Gellir gweld copi digidol o Lyfr Aneirin ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-aneirin - Adnoddau CBAC – ‘Cyflwyno’r Gododdin’ gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/01-cyflwynor-gododdin.html…
 
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, nodwn ei fod yn defnyddio’r mesur hwnnw mewn modd gwreiddiol. Craffwn ar arwyddocâd yr enwau lleoedd sy’n angori’r gofeb farddonol hon mewn rhan benodol o Gymru. Rhaid cyfaddef hefyd ein bod wedi’n llorio gan y tristwch sy’n hydreiddio’r gerdd bwerus hon. * We consider the poem 'Gwenllian' by Myrddin ap Dafydd in this episode, explaining the two relevant historical contexts – the end of the dynasty of the princes of Wales in 1282 and the history of a campaign in the 1990s to create a memorial to Llywelyn ap Gruffudd's daughter, Gwenllian. We suggest that this poem is a remarkably impressive memorial in its own right. In emphasising that Myrddin ap Dafydd chose a traditional strict measure, the cywydd, we note that he used that measure in an original way. We will examine the significance of the place names that anchor this poetic memorial in a particular part of Wales. It must also be admitted that we are overwhelmed by the sadness that permeates this powerful poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Gwenllian.docx…
 
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y math o newyddion a welid ar y teledu pan oedd Iwan Llwyd yn ifanc a chynnwys y gerdd hon. * In this episode we look at the poem 'Aneirin' by Iwan Llwyd, scrutinizing the way in which he compares – or assimilates – the poet's job with the journalist's. We also discuss the way in which the poem assimilates wars from different historical periods and note that Iwan Llwyd has very definite ideas about the function of the Welsh poet through the ages. We explain the historical context and the relationship between the type of news seen on television when Iwan Llwyd was young and the content of this poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://hwb.gov.wales/api/storage/31be5bb4-0430-4ab1-aa03-86e4b41d8e6d/Nodiadau%20Iwan%20Llwyd.pdf?preview=true…
 
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro rhan ganolog benywod Cymreig yn y protestiadau a geid ger safle milwrol Comin Greenham. * We discuss Menna Elfen's 'Mother's Day at Greenham, 1984' in this episode. Jerry Hunter scrutinizes the structure and style of the poem, noting how the poet takes advantage of the flexibility of free measure. She also discusses the images that are central to her. Richard Wyn Jones explains the historical and political context, explaining the central role of Welsh women in the protests that took place near the Greenham Common military site. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Sul%20y%20Mamau%20yn%20Greenham_1984.docx…
 
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y gerdd fodern hon yn amlygu rhai agweddau hynafol ar y traddodiad barddol Cymraeg. * This episode focusses on Gerallt Lloyd Owen's poem, 'Y Gŵr sydd ar y Gorwel'. As well as scrutinising the poet's craft, we explain the political context and consider why Gerallt Lloyd Owen approached Saunders Lewis in this way. We note the significance of the word 'horizon' itself and suggest that this modern poem highlights some ancient aspects of the Welsh bardic tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resources.hwb.gov.wales/VTC/2008-09/welsh/irf08-153/y_cerddi/y_gwr_sydd_ar_y_gorwel.doc - Jerry Hunter, ‘Y Gŵr Sydd Ar y Gorwel: Cywydd Brud Cyfoes’, Barn 409 (1997).…
 
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r strwythur. Er bod cymaint o realiti caled yn y nofel, nodwn fod elfennau sy’n mynd yn groes i realaeth hefyd wrth i’r darllenydd brofi agweddau swreal neu hudol. Awgrymwn fod naws gothig hefyd a’i bod yn bosibl gweld cysgod ‘Mami’ fel fersiwn gwyrdroëdig o’r ‘Fam Gymreig’ ystrydebol. * We discuss Martha, Jac a Sianco in this episode, scrutinizing how the novel depicts the dark side of rural life. We find that even the most shocking aspects of the novel reflect reality and that this courageous work goes against a stream of Welsh literature that elevates, romanticises and idealises the life of the farmer. We praise Caryl Lewis's craft as we scrutinize the character and structure. While there is so much hard reality in the novel, we note that there are also elements that conflict with realism as the reader experiences surreal or magical aspects. We suggest that there is also a gothic feel to it and that it is possible to see the shadow of 'Mami' as an inverted version of the stereotypical 'Welsh Mam'. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/Help%20Llaw/Martha%20Jac%20Sianco.pdf…
 
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a chywair ffurfiol. Archwiliwn nifer o agweddau ar y nofel, gan gynnwys ei hymdriniaeth â salwch meddwl, tlodi, crefydd a chreulondeb. Nodwn hefyd wrth fynd heibio fod y gwaith arloesol hwn wedi cael effaith sylweddol ar artistiaid Cymraeg eraill. * We discuss Un Nos Ola Leuad in this episode while filming at the National Library of Wales, with Caradog Prichard's own notebook with one of his original plans for the novel and a draft of a chapter in front of us. We consider the style of this remarkable work and the way it moves between dialectal and formal tones. We explore many aspects of the novel, including its treatment of mental illness, poverty, religion and cruelty. We also note in passing that this innovative work has had a significant impact on other Welsh artists. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resources-legacy.wjec.co.uk/pages/ResourceSingle.aspx?rIid=389 - Y gân ‘Un Nos Ola Leuad’ gan Endaf Emlyn: https://www.youtube.com/watch?v=-2_MCXtL2uI…
 
Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall yn awyddus i ddysgu mwy, a’r ddau’n cael llawer o hwyl wrth graffu ar rai o drysorau llenyddol pwysicaf Cymru. Bydd penodau sy’n canolbwyntio ar y nofelau Un Nos Ola Leuad a Martha, Jac a Sianco yn cael eu rhyddhau yn ystod y dyddiau nesaf (gan fod yr arholiadau perthnasol yn dechrau’n fuan). Byddwn ni’n rhyddhau’r penodau eraill yn fuan wedyn, gan gynnwys rhai sy’n canolbwyntio ar y pynciau hyn: Canu Aneirin, Canu Taliesin, cywyddau Dafydd ap Gwilym, a detholiad o gerddi modern. Mwynhewch! * Yr Hen Iaith (Lefel A): Our series for Welsh A Level Students This is a special series of Yr Hen Iaith - one that has been created specifically for people studying Welsh A Level. Each episode in the series relates to an aspect of the syllabus. You can listen to two old friends discussing Welsh literature, one an expert in the field and the other eager to learn more, and both having a lot of fun while scrutinizing some of Wales' most important literary treasures. Episodes focussing on the novels Un Nos Ola Leuad and Martha, Jac a Sianco will be released in the coming days (as the relevant exams start soon). We will release the other episodes shortly afterwards, including some that focus on these subjects: Canu Aneirin, Canu Taliesin, the poems of Dafydd ap Gwilym, and a selection of modern poems. Enjoy!…
 
Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r gyfres fer hon yn canolbwyntio ar destunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ond mae’n debyg iawn y byddwch chi, ein dilynwyr presennol, yn eu mwynhau hefyd. (Yn wir, mae wedi bod yn fodd i ni lenwi ambell fwlch a adwyd gennym yng Nghyfres 1). Dechreuir rhyddhau’r gyfres arbennig hon yn syth, felly os ydych chi’n nabod rhywun sy’n astudio Cymraeg lefel A neu os ydych chi’n nabod athrawes neu athro lefel A Cymraeg, gadewch iddynt wybod. Ac ar ôl i ni orffen rhyddhau’r Hen Iaith (Lefel A), ac ar ôl i ni gael cyfle i ddal ein hanadl, bydd yr hen Hen Iaith arferol yn dychwelyd gyda Chyfres 3. Diolch am eich cefnogaeth! * Yr Hen Iaith's podcast feed - a message for subscribers As you know if you have been following Yr Hen Iaith, the last episode was the final episode of Series 2. There will be a little break before we start Series 3, but the Yr Hen Iaith team will not be idle! In fact, we have started recording a special series for A-level pupils. This short series focuses on subjects that are on the Welsh A-level syllabus, but it is very likely that you, our current followers, will enjoy them too. (Indeed, it has allowed us to fill a few gaps that we mentioned in Series 1). The release of this special series will start immediately, so if you know someone who is studying A-level Welsh or if you know a teacher or A-level Welsh teacher, let them know. And after we've finished releasing Yr Hen Iaith (Lefel A), and after we've had a chance to catch our breath, the regular Yr Hen Iaith will return with Series 3. Thank you for your support!…
 
Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma’r fersiwn sy’n cael ei ystyried yn glasur. Ystyr y gair ‘prif’ yn y teitl yw ‘cynharaf’; dyma lyfr sy’n trafod hanes cynnar y Cymry – neu’r Hen Frytaniaid – ac mae’n adrodd yr hanes hwnnw mewn dull storïol cyffrous. O ran hanes rhyddiaith Gymraeg, mae’n anodd meddwl am lyfr unigol pwysicaf a gyhoeddwyd rhwng dechrau’r 18fed ganrif a datblygiad y nofel Gymraeg dros ganrif yn ddiweddarach. Mae hefyd yn hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig; dyma lyfr sy’n defnyddio hanes i ddweud wrth y Cymry pwy ydynt. Noder: Ni fydd Yr Hen Iaith yn cysgu! Daw neges yn fuan iawn am gyfres arbennig a ddarlledir rhwng diwedd y gyfres hon a dechrau cyfres 3. *** Historiography and Identity: Drych y Prif Oesoedd With this episode we bring the second series of Yr Hen Iaith to an end, and we do that by discussing an incredibly influential book which Theophilus Evans published in 1740. Drych y Prif Oesoedd [The Mirror of the Earliest Centuries] was first published in 1716, but the author worked to expand the work considerably and republish it 24 years later, and this is the version which is considered to be a classic. The word prif in the title means ‘earliest’; this is a book which treats the early history of the Welsh – or the Ancient Britons – and it relates that history in an exciting narrative style. When considering Welsh-language prose, it’s difficult to think of a more important book published between the start of the 18th century and the development of the Welsh novel more than a century later. It is also extremely important in the context of Welsh identity; this is a book which uses history to tell the Welsh who they are. Note: Yr Hen Iaith won’t be sleeping! A message will soon be released about a special series which will be broadcast between the end of this series and the start of series 3. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - David Thomas (gol.), Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd (1740 [adargraffiad, 1960]). - Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes: erthyglau ar lên, hanes a gwleidyddiaeth Cymru (2001).…
 
Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg â phechod? A sut mae’n gwneud hynny? A pham poeni cymaint am yr canu mawl, a’r traddodiad hwnnw’n gwegian os nad yn prysur chwalu ar y pryd? Ystyriwn hefyd ymdrech Ellis Wynne i ladd arch-fardd bytholwyrdd y traddodiad, Taliesin, ac awgrymu mai Taliesin sy’n chwerthin yn olaf er gwaethaf hyn oll. * * * Taliesin in the Land of Death: The Visions of the Sleepiong Bard (2) In this episode we look at how Ellis Wynne discusses the Welsh bardic tradition in The Visions of the Sleeping Bard. The enw of the work’s main character has ancient literary roots, and we see that other aspects of this amazing book satirize that tradition. Why does Ellis Wynne connect Welsh poetry with sin? And how does he do that? And why worry so much about the praise poetry, seeing as that tradition was on its knees if not completely disappearing at the time? We also consider Ellis Wynne’s attempt at killing the tradition’s evergreen arch-bard, Taliesin, and suggest that it’s Taliesin who laughs last despite of this. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Patrick J. Donovan a Gwyn Thomas (goln.) Gweledigaethau y Bardd Cwsg: y rhan Gyntaf (1998). - Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a’i gefndir (1971). - Gwyn Thomas, Ellis Wynne (1984).…
 
Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr o ran cynnwys a chyd-destun yn ogystal â’r iaith. Eglwyswr a brenhinwr rhonc oedd Ellis Wynne, ond esgorodd ei geidwadaeth wleidyddiaeth a chrefyddol ar greadigaeth artistig a ymestynnodd ffiniau rhyddiaith Gymraeg gyda’i arddull fyrlymus a’i ddelweddau cofiadwy. Ac er bod y llyfr yn y pendraw yn waith moesol sy’n trafod pechod, mae’n gwneud hynny mewn modd sy’n rhyfeddol o ffraeth a doniol. * * * ‘On one fair afternoon during a warm long golden summer’: The Visions of the Sleeping Bard (1) Here we celebrate the podcast’s sixtieth episode by discussing one of the Welsh classics of the early modern period, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (‘The Visions of the Sleeping Bard’), a book published by Ellis Wynne in 1703. Although this amazing work is in a kind of adaptation of English books which were in turn translations of a Spanish text, it’s a very original creation, seeing as the author made his material Welsh in content and context as well as language. Ellis Wynne was an ardent Anglican and a royalist, but his religious and political conservatism generated an artistic creation which extended the boundaries of Welsh prose with its vivacious style and memorable imagery. And although this book is in the end a moral work discussing sin, it does that in a way which is incredibly witty and funny. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Patrick J. Donovan a Gwyn Thomas (goln.) Gweledigaethau y Bardd Cwsg: y rhan Gyntaf (1998). - Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a’i gefndir (1971). - Gwyn Thomas, Ellis Wynne (1984).…
 
Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn y methodd ei wneud fel milwr. Ceir cipolwg hefyd ar ddrama Gymraeg sy’n dathlu adferiad yr hen drefn a ddaeth gydag adferiad y frenhiniaeth yn 1660, a’r bobl bellach yn rhydd o’r cyfreithiau Piwritanaidd a oedd wedi gwahardd y fath berfformiadau ac yn cael mwynhau canu a dawnsio eto. Ystyriwn hefyd waith llenyddol y genhedlaeth nesaf o Biwritaniaid, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg o lyfr Saesneg hynod ddylanwadol. * * * The Pen is Mightier than the Sword: Writing and Ideology after the Wars In this episode we look at Welsh literature on both sides of the ideological divide after the wars between Parliament and King came to an end. You’ll hear Rowland Vaughan admitting that he didn’t succeed in killing radical threats to order with his ‘red sword’ during the wars, as he attempted to do as an author that which he failed to do as a soldier. There’s also a look at a Welsh play which celebrates the return of the old order which came with the Restoration of the monarchy in 1660, people now free of the puritanical laws which had banned such performances and able to enjoy singing and dancing again. We also consider literary work by the next generation of Puritans, including a Welsh translations of an extremely influential English book. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018)…
 
Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd. Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr sy’n fyfyrdod ynghylch y gwahaniaeth rhwng ieithoedd bydol a gair Duw, er ei fod hefyd yn dyrchafu gwerth ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ac yn addasu dyfyniad allweddol hen broffwydoliaeth Gymraeg boblogaidd wrth wneud hynny. Nodwn hefyd gysylltiad annisgwyl rhwng Morgan Llwyd a Bob Marley a darganfod o bosibl fod gwedd ysbrydol ar Richard Wyn Jones na wyddai’i gyfaill Jerry Hunter amdani! * ‘Wonder, Wonder, Wonder’: Morgan Llwyd (3) In this episode we consider two books which were published by Morgan Llwyd during his last years, beginning with Gwyddor Uchod (‘The Science Above’), a long poem which discusses the stars and the planets, combining science and Christian mysticism. We define ‘mysticism’ as well along the way and note that it is a phenomenon found in various religions all over the world. We also look at Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn (‘A Word from the Word or Talk about Sound’), a book containing a meditation on the difference between wordly languages and the word of God, although it also elevates the value of writing in the Welsh language and adapts a quote from a popular old Welsh prophecy in doing so. We also note that there’s an unexpected connection between Morgan Llwyd and Bob Marley and possibly discover a spiritual side of Richard Wyn Jones which his friend Jerry Hunter never knew about! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn Chwefror 2025).…
 
A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill i’w watwar’; ac yntau’n Biwritan a oedd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, gwyddai’n iawn y byddai llawer yn ‘gwatwar’ y syniadau crefyddol newydd yr oedd yn eu cyflwyno iddynt. Eglurwn hefyd mai ‘dirgelwch’ yw ffordd yr awdur o ddweud mai alegori yw’r gwaith, gyda phob un o’r tri aderyn yn cynrychioli tri safbwynt; cawn yma fersiynau alegorïaidd o’r Eglwyswr ceidwadol, y Piwritan a grym bydol y Wladwriaeth. A dyma stori sy’n digwydd mewn dau fyd sy’n gorgyffwrdd, gydag adar Arch Noa yn symud o’r cyd-destun Beiblaidd hynafol hwnnw i’r byd cyfoes a gwlad a oedd wedi’i hysgwyd gan ryfeloedd cartref gwaedlyd yn ddiweddar. Dyma gyfle hefyd i glywed am ddarn o ryddiaith a disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel un ‘o’r darnau dwysaf o hunangofiant yn ein llenyddiaeth Gymraeg’. A pham bod Jerry Hunter mor hoff o’r Gigfan, cymeriad drwg y stori?! * Three Birds and Two Worlds: Morgan Llwyd rhan 2 Seeing as Richard Wyn Jones joined the Morgan Llwyd fan club in the last episode, here’s an opportunity to discuss the masterpiece of that mystic of an author, ‘The Book of the Three Birds’. We explain first of all that that is not the book’s real title, and that Morgan Llwyd himself described it as ‘a mystery for some to understand and for others to scorn’; himself a Puritan who was very different from his fellow Welsh people, he knew well that many people would ‘scorn’ the religious ideas he was presenting to them. We also explain that ‘mystery’ is the author’s way of saying that this work is an allegory, with each one of the three birds representing three points of view; here we have allegorical versions of the conservative Anglican, the Puritan and the secular power of the Commonwealth. And this story takes place in two overlapping worlds, as the birds of Noah’s Arch move from that ancient biblical setting to the contemporary world and a country recently shaken by bloody civil wars. You’ll also be able to hear about a piece of prose described by Saunders Lewis as one ‘of the most profound pieces of autobiography in our Welsh-language literature’. And why is Jerry Hunter so fond of the Raven, the story’s baddy?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Further Reading: - Thomas Richard, A History of the Puritan Movement in Wales from the Institution of the Church at Llanfaches in 1639 to the Expiry of the Propogation Act in 1653 (1920). - Saunders Lewis, Meistri’r Canrifoedd (1982). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - M. Wynn Thomas (gol.), Llyfr y Tri Aderyn [:] Morgan Llwyd (1988). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd [:] Ei Gyfeillion, Ei Gyfoeswyr A’i Gyfnod (1991). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn Chwefror 2025).…
 
‘Dwi rŵan yn dallt y ffys’ yw geiriau Richard Wyn Jones ar ôl cael cyflwyniad i ryddiaith Morgan Llwyd yn y bennod hon. Ac yntau’n Biwritan a geisiai gyflwyno math o Brotestaniaeth a oedd yn fygythiol o estron i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, manteisiai Morgan Llwyd ar ei brofiad fel pregethwr a’i ddoniau llenyddol syfrdanol i gyrraedd calonnau a meddyliau darllenwyr Cymraeg. Trafodwn y cymysgedd o syniadau crefyddol a ddylanwadodd ar ei waith. Ond yn bennaf, rhyfeddwn at rym rhyddiaith Morgan Llwyd ac angerdd y llais awdurol sy’n ein cyfarch mewn dau o’i destunau cyhoeddedig cynharach, Llythyr i’r Cymry Cariadus a Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod. Ceir yma hefyd deyrnged i olygydd modern cyntaf Morgan Llwyd, yr A. S. Rhyddfrydol, Tom Ellis. * ‘Oh People of Wales! It is to you that me voice calls!’: Morgan Llwyd (1) ‘Now I understand the fuss’ are Richard Wyn Jones’ words after getting an introduction to the prose of Morgan Llwyd in this episode. A Puritan attempting to introduce a kind of Protestantism which was threateningly foreign to most of his fellow Welsh people, Morgan Llwyd utilized his experience as a preacher and his stunning literary skills to reach the hearts and minds of Welsh readers. We discuss the mixture of religious ideas influencing his work. But for the most part, we marvel at the power of Morgan Llwyd’s prose and the passion of the authorial voice which addresses us in two of his earliest published texts, A Letter to the Loving Welsh and A Shout in Wales in the Face of Every Conscience. Here also is a tribute to Morgan Llwyd’s first modern editor, the Liberal M.P., Tom Ellis. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Thomas E. Ellis (gol.), Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd: dwy gyfrol (1899 a 1908). - Thomas Richard, A History of the Puritan Movement in Wales from the Institution of the Church at Llanfaches in 1639 to the Expiry of the Propogation Act in 1653 (1920). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd [:] Ei Gyfeillion, Ei Gyfoeswyr A’i Gyfnod (1991). - R. M. Jones, Cyfriniaeth Gymraeg (1994). - Goronwy Wyn Owen, Rhwng Calfin a Böhme [:] Golwg ar Syniadaeth Morgan Llwyd (2001). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn 2025).…
 
Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi esgor ar arloesi celfyddydol hynod egnïol. Nodwn fod ffrydiau traddodiadol o ganu serch wedi’u haddasu hyd yn oed, wrth i ferch ganu am filwr seneddol a geisiodd ei denu pan oedd ei chariad i ffwrdd yn ymladd ym myddin y brenin. Ac mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys cerdd sy’n dychmygu anfon cath ar daith ar draws sir Feirionnydd gyda neges i filwyr dan warchae yng nghastell Harlech. * In this episode we look at a selection of poems composed by royalists during the ‘civil wars’ of the seventeenth century. We see that poets adapted old methods and themes in order to treat current developments which were shaking their world. Interestingly enough, It’s possible to suggest that political and religious conservatism generated incredibly energetic artistic innovation. We note that even traditional modes of love poetry were adapted, as a woman sings about a parliamentarian soldier who tried to seduce her while her lover was away fighting in the king’s army. And the highpoints include a poem which imagines sending a cat on a journey across Merionethshire with a message for besieged soldiers in Harlech castle. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru]. - Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu’r Ail Ganrif ar Bymtheg (1993). - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle, and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).…
 
Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I. Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawer o destunau Cymraeg sy’n tystio i ymwneud y Cymry â’r gwrthdaro a’r trais, edrychwn hefyd ar enghraifft sy’n ein hatgoffa nad ar chwarae bach y mae cymryd llenyddiaeth fel ffynhonnell hanesyddol ddibynadwy. * Episode 54 - ‘The earth shook: an introduction to the Welsh literature of the ‘Civil Wars’ There is a great amount of Welsh-language literature surviving which is related to the ‘Civil Wars’ between Parliament and King Charles I. We note in this episode that the most famous Welsh author of the period, Morgan Llwyd, was a Puritan who supported the Senate, and we quote from a poem by him which describes the warfare as an earthquake shaking his world. However, most seventeenth-century Welsh people supported the king, and we discuss how one Welsh poet suffered because of his political and religious loyalties. And although there are many texts which testify to the connections between Welsh people and the conflict and violence, we also look at one example which reminds us that it is not lightly that one takes literature as a reliable historical source. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru] - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).…
 
Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol. Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol. ** Sin in Llandovery: The Vicar Prichard In this episode we discuss the way Rhys Prichard (c.1579-1644), vicar of Llandovery, used simple free-metre poetry to spread religious lessons. In addition to considering his general agenda, we look in detail at one poem which shows that he was very worried by the sinful life he saw in his own parish, and which depicts Llandovery as a kind of Sodom a Gomorrah. It was only after his death that his work was published as a collection under the title Cannwyll y Cymry [‘the Candle of the Welsh’]. The work would be reprinted repeatedly, ensuring that ‘the Vicar Prichard’ was among the most popular Welsh poets of the period before 1800. However, in our opinion the most interesting thing about this poet is way in which Rhys Prichard was made part of the Welsh Puritan lineage; looking anew at evidence about his life and his own beliefs, we conclude that he was actually diametrically opposed to the Puritans who fought against the king. We thus have here a striking example of literature taken out of its original political and religious context and used for completely different ends. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Siwan Non Richard, Y Ficer Prichard (1994). - Nesta Lloyd, ‘Late Free-Meter Poetry’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh Literature c.1530-1700 (1997 ).…
 
Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620. ‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn llai o ran maint ac felly’n rhatach. Wrth drafod ei arwyddocâd yn y bennod hon, craffwn ar ragymadrodd y Beibl Bach, ysgrif hynod ddiddorol sy’n annog y darllenydd i adael i’r beibl hwn fyw yn tŷ ag ef ‘fel cyfaill’ ac ‘fel anwylddyn.’ O safbwynt hanes crefydd yng Nghymru, dyma garreg filltir a fyddai’n hybu Piwritaniaeth yn y pen-draw. Ac o safbwynt hanes llenyddiaeth Gymraeg, byddai’r cyhoeddiad hwn yn hybu llythrennedd yn sylweddol. ** ‘Friend and Dear Person’: The Little Bible of 1630 In order to understand to development of Welsh literature in the seventeenth century, we have to discuss the Bible again. Following the publication of William Morgan’s Bible in 1588, a revised version was published in 1620. These were ‘pulpit bibles’, big books used in the church which were too expensive for most Welsh people to buy. But a very different one was published in 1630, the Beibl Bach or ‘Little Bible’, one which was quite a bit smaller in size and thus cheaper. While discussing its significance in this episode, we examine the Beibl Bach’s introduction, an extremely intersting piece of writing which urges the reader to let this bible live in the house with him ‘like a friend’ and ‘like a dear person.’ From the point of view of Welsh religious history, this was a milestone which would encourage Puritanism eventually. And from the point of view of Welsh literary history, this publication would encourage literacy considerably. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - J. Gwynfor Jones, Crefydd a Chymdeithas [:] Astudiaethau ar Hanes y Ffydd Brotestannaidd yng Nghymru c.1559-1750 (2007), a phennod VII yn enwedig. - am ymdriniaeth ffuglennol â dylanwad y Beibl Bach, gw. y bennod ‘1630’ yn Jerry Hunter, Y Fro Dywyll (2014). - gw. hefyd yr Ysgrifau cydymaith sy’n cael eu cyhoeddi yn adran ‘Culture’ y papur arlein Nation.Cymru.…
 
Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn. Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwyd Dafydd pan fu farw Catrin yn 1602, cerdd sy’n mynegi galar y gŵr mewn modd personol a chofiadwy. Trafodwn wedyn gyfres o englynion a gyfansoddasai Catrin pan aeth eu mab nhw, Siôn i astudio yn Rhydychen. Mae’r gerdd hon yn cyflwyno cyngor y fam i’w mab, ac mae naws y cyngor yn rhyfeddol o debyg i’r hyn y gellid disgwyl i rieni ddweud wrth eu plant heddiw! Ar ganol ei gwrs gradd yn Rhydychen oedd Siôn pan fu farw’i fam, ac felly mae’r ddwy gerdd gyda’i gilydd yn gyfle i ni weld y tu mewn i fywyd – a marwolaeth – y teulu hwn ac ystyried y modd yr oedd barddoniaeth yn gyfrwng iddynt fynegi’u teimladau. ** ‘The Beloved Path of Being Married to Her’: A Mother’s Counsel and a Husband’s Grief After First noting that there is a great amoung of Welsh strict-metre poetry from the period and naming some of the important bards whom we don’t have time to discuss, we concentrate on two poems from early in the seventeenth century which offer insight into the life of one family of uchelwyr – Dafydd Llwyd and his wife Catrin Owen from yr Henblas, Llangristiolus, Anglesey. We look First at a cywydd composed by Dafydd when Catrin died in 1602, a poem which expresses the husband’s grief in a personol and memorable manner. Then we discuss a series of englynion which Catrin had composed when their son, Siôn, went to study at Oxford. This poem presents the mother’s counsel to her son, and the nature of this counsel is amazingly similar to what one might expect parents to say to their children today! Siôn was in the middle of his course of study in Oxford when his mother died, and so these two poems together offer an opportunity for us to see inside the life – and death – of this family and consider the way in which poetry offered them a medium for expressing their feelings. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu’r Ail Ganrif ar Bymtheg (199). - gw. hefyd yr Ysgrifau cydymaith sy’n cael eu cyhoeddi yn adran ‘Culture’ y papur arlein Nation.Cymru…
 
A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth. Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy! ** A Poet in Two Worlds: Richard Hughes of Cefnllanfair As we record our 50th episode, we celebrate the milestone by discussing one of the most interesting poets of the early modern period, Richard Hughes of Cefnllanfair in Llŷn. We note that he was one of several Welsh poets who spent a great deal of time in London in the age of Elizabeth I. Richard Hughes was a footman who served the queen herself, but in addition to spending time in the court in London he also visited his old home frequently, as his poetry demonstrates. Indeed, his work is wonderfully varied, including poetry in both free and strict metres and, as far as themes are concenred, including: courtly love poetry and poems which treat sex in an extremely bawdy manner; poems about life in London and ones about Pen Llŷn (including a lively englyn to the Bardsey Island boat); poems which pay tribute to individuals and ones which satirize other people. And, yes, discussing the poetry of Richard Hughes enabled Richard Wyn Jones to learn an old Welsh word for toilet – cachdy (shit-house)! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, ‘“Ond Mater Merch”: Cywydd Llatai Troseddol Tomos Prys’, Llên Cymru 46 (2023) - Nesta Lloyd (gol.), Ffwtman Hoff: Cerddi Richard Hughes Cefnllanfair (1998). gw. hefyd yr erthygl berthnasol a fydd yn ymddangos yn adran ‘Culture’ Nation.Cymru erbyn diwedd yr wythnos.…
 
Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd. Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhydd yn fodd i ni ystyried cwestiynau mawr yn ymwneud â’r berthynas (a’r gwahaniaeth) rhwng yr hen a’r newydd ac y ‘brodorol’ a’r ‘estron’. Nodwn fod lleisiau barddol benywaidd yn ymddangos yn y corff newydd hwn o farddoniaeth ac edrychwn yn fanwl ar gerdd angerddol sy’n protestio’n erbyn dadgoedwigo cymoedd y De (ac sy’n rhoi’r bai am y dinistr ecolegol hwn ar ‘y Saeson’). *** Episode 49 Love, Protest and the Ideology of Meter: the Free-Meter Poetry We begin in this episode by considering something many of us in Wales take for granted, namely the difference between Welsh-language strict-meter poetry and free-meter poetry. We suggested that there are social and ideological dimensions to this fundamental metrical difference. We concentrate on free-meter poetry composed during the sixteenth century and early in the following century and discussing the two kinds of free-meter verse provides an opportunity to consider big questions concerning the relationship (and difference) between the old and the new and the ‘native’ and the ‘foreign’. We note that female voices appear in this new body of poetry and we look at a poem which protests passionately against the deforestation of the valleys of South Wales (and which puts the blame on ‘the English’ for this ecological destruction). Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Brinley Rees, Dulliau’r Canu Rhydd 1500-1650 (1952). - Cennard Davies, ‘Early Free-Meter Poetry’ a Nesta Lloyd, ‘Late Free-Meter Poetry’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh literature c.1530-1700 (1997). - Christine James, ‘Coed Glyn Cynon’, yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cwm Cynon (1997).…
 
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin. Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib cyflwyno cymaint o’r hanes cyffrous hwn yn y modd hwn. A nifer o brif gymeriadau’r stori wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau a’u magu’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith, mae hefyd yn bennod ddiddorol yn hanes cymdeithasol yr Hen Iaith. Ac fel y noda Richard Wyn Jones, mae’r modd y maen nhw’n ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg yn cysylltu’r deunydd hwn â llawer o lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesau Canol a drafodwyd yng nghyfres gyntaf y podlediad hwn. ** Prynwch 'Dros Gyfiawnder a Rhyddid' ** https://www.ylolfa.com/products/9781800993815/dros-gyfiawnder-a-rhyddid-y-cambrian-guards-caethwasiaeth-a-rhyfel-cartref-america Storyville Books Pontypridd: https://www.storyvillebooks.co.uk/ Special Episode: Writing about war in Welsh . . . in America! This is an episode which was recorded before a live audience in Storyville Books, Pontypridd during the 2024 National Eisteddfod. As he had just finished reading it, Richard Wyn Jones wanted to discuss his co-presenter’s latest book, Dros Gyfiawnder a Rhyddid [‘For Justice and Freedom’]. It’s a volume which relates the history of a particular Welsh community during the American Civil War, concentrating in narrative fashion on the men in the army while also considering their relationship with their home community in Wisconsin. This story is told through the original Welsh words of these Welsh Americans, and according to Richard Wyn Jones, ‘it’s amazing’ that it’s possible to present so much of this exiting history in this manner. As a number of the story’s main characters were born in the United States and raised speaking Welsh as their first language, it’s also an interesting chapter in the social history of the Old Language. And as Richard Wyn Jones notes, the way in which they write about war in Welsh connects this material to a great deal of medieval Welsh literature which was discussed in the first series of this podcast. ** Buy 'Dros Gyfiawnder a Rhyddid ** https://www.ylolfa.com/products/9781800993815/dros-gyfiawnder-a-rhyddid-y-cambrian-guards-caethwasiaeth-a-rhyfel-cartref-america Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, Dros Gyfiawnder a Rhyddid [:] Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America (Y Lolfa, 2024).…
 
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl. Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei addysg yng Nghaergrawnt a Wiliam Cynwal yn fardd traddodiadol a raddiodd mewn eisteddfod, a gwelwn fod dau fath o ddysg yn ymrafael, y naill yn newydd a’r llall yn hen. Mae’n bosib ei gweld fel dadl ynghylch dyfodol barddoniaeth Gymraeg. Ond, er gwaethaf y pynciau esoterig a’r themâu diwylliannol sy’n gwau trwy’r cerddi ymryson hyn, mae’r ddau yn ymosod yn bersonol ar adegau hefyd, wrth i Edmwnd Prys alw Wiliam Cynwal yn hen a’r bardd yntau’n ensynio bod Prys yn dew. One Heck of an Argument: The Bardic Debate between Edmwnd Prys and Wiliam Cynwal The ymryson held between Edmwnd Prys and Wiliam Cynwal in the 1580s is the longest bardic debate in the entire history of the Welsh language. It contains 53 poems in the strict-metre cywydd form and more than 4,000 lines, and it was only the death of the old bard Wiliam Cynwl which brought the contention to an end. We discuss this amazing ymryson in this episode, explaining its origin before examining the essence of the argument. Edmwnd Prys received his education in Cambridge while Wiliam Cynwal was a traditional bard who graduated in an eisteddfod, and we see that two kind of learning are contending, one new and the other old. It’s possible to see this as a struggle over the future of Welsh poetry. Yet despite the esoteric subjects and cultural themes woven through these debate poems, the two also engage in personal insults at times, with Edmwnd Prys calling Wiliam Cynwal old and the bard suggesting that Prys is fat. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (1986) - Gw. hefyd yr ysgrif berthnasol yn Nation.Cymru…
 
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl. Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod. Ac yn olaf, crybwyllwn y modd yr oedd technoleg newydd y wasg argraffu yn cynnig her o fath arall. Clywir hanesyn am uchelwr a ddangosodd ddirmyg i fardd mawl mewn modd cofiadwy a cheir cyfle i wyntyllu dadansoddiad Marcsaidd o’r newidiadau hyn yn hynt hanes ein diwylliant llenyddol. * ‘The Job of the Bards is without Dignity’: Bards, Humanists and Karl Marx This episode concentrates on the factors which were undermining the Welsh bardic order during the second half of the sixteenth century. We discuss three challenges specifically, beginning with the fact that the pool of patronage was shrinking and making it more difficult for a bard to earn a living by composing praise poetry. We also consider the challenge posed by the ideas and attitudes of the humanists and the struggle between two kinds of learning in the period. Finally, we note the way in which the new technology of the printing press was presenting a different kind of challenge. You’ll hear an anecdote about an uchelwr who showed his contempt for a praise poet in a memorable manner and there is ample opportunity to explore a Marxist analysis of these changes in the course of our literature’s history. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - R. Brinley Jones, The Old British Tongue: The Vernacular in Wales 1540-1600 (1970) - Branwen Jarvis, 'Llythyr Siôn Dafydd Rhys at y Beirdd', Llên Cymru 12 ac hefyd yn y gyfrol Llinynnau (1999) - Jerry Hunter, ‘Cyfrinachau ar Dafod Leferydd: Ideoleg Technoleg yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg’ yn Angharad Price (gol.), Chwileniwm [:] Llenyddiaeth a Thechnoleg (2002)…
 
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad. Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd. Cyhoeddi llyfrau Cymraeg ym Milan, cwffio rhwng y Cymry a’r Saeson yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cynhyrchu llyfr Cymraeg Catholig ar wasg anghyfreithlon mewn ogof yng Nghymru – roedd yr alltudion Cymreig hyn yn gysylltiedig â rhai o’r penodau mwyaf anhygoel yn hanes yr iaith Gymraeg. ** Italy’s Welsh-language Literature and an Illegal Printing Press in Wales As we’ve been looking recently at the relationship between humanism, Protestantism and the Welsh language, here’s an opportunity to look at the other side of the Reformation’s coin. In this episode we discuss some of the Welsh-language Catholic literature of the sixteenth century, concentrating on two extraordinary friends, Morris Clynnog and Gruffudd Robert. These two men from north-west Wales had to flee to the continent because of there religion when the Protestant queen Elizabeth I came to the throne. Publishing Welsh books in Milan, fighting between the Welsh and the English in Rome’s English College, producing a Welsh-language Catholic book on an illegal printing press in a cave in Wales – these Welsh exiles were connected with some of the most amazing chapters in the history of the Welsh language. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Geraint Bowen, Welsh Recusant Writings (1999) - Angharad Price, Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (2005) - Angharad Price, ‘Y Cymry yn yr Eidal’ yn Gororion (2023)…
 
Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil 1588 yn anad dim a sicrhaodd fod ganddi gywair llenyddol aruchel arhosol. Mae’r undod ieithyddol hwn wedi profi’n hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig hefyd. Cawn gyfle hefyd i nodi ymateb rhai Cymry cyfoes, gan gynnwys cywydd mawl gan y bardd Rhys Cain sy’n tynnu sylw mewn modd cofiadwy at gamp ieithyddol William Morgan. * * ‘Proper Welsh for all of the Welsh People’: The 1588 Bible In this chapter we discuss William Morgan’s amazing achievement, the 1588 Welsh Bible. Not ignoring its obvious religious significance, we concentrate on the significance of this milestone from the point of view of the history of the Welsh language and its literature. One of the things which makes Welsh such an incredibly rich language is the variety of registers available to authors writing in Welsh, and it was the 1588 Bible above all else which ensured that it has an enduring elevated literary register. This linguistic unity has proven to be extremely important in the context of Welsh identity as well. We all get a chance to note the reactions of some contemporary Welsh people, include a poem of praise by the bard Rhys Cain which draws attention in a memorable fashion to William Morgan’s linguistic feat. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Prys Morgan, Beibl i Gymru (1988).…
 
‘Dwi wir wedi fy llorio gan hyn’ yw un o’r pethau a ddywed Richard Wyn Jones ar ôl clywed am ragymadrodd syfrdanol yr Esgob Richard Davies i Destament Newydd 1567. Dyma ysgrif lenyddol fywiog sy’n hynod ddiddorol – ac yn hynod arwyddocoal – o safbwynt hunaniaeth Gymreig y cyfnod. Mae hefyd yn ddarn o bropanda Brotestannaidd sy’n troi’r gwirionedd y tu chwith allan gan ddarlunio’r Hen Frytaniaid fel rhyw fath o broto-Brotestaniaid a honni mai dychwelyd eu hen ffydd iddynt yn hytrach na’u cyflwyno i ffydd newydd yr oedd y Diwygiad Protestannaidd. Ond mae hefyd yn cyflwyno cnewyllyn o wirionedd o fath arall wrth drafod yr hen ryfeloedd rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n rhyfeddol gweld Richard Davies yn trafod coron Loegr mewn modd negyddol gan ei fod yn gwasanaethu’r goron honno fel esgor yn Eglwys Loegr! * The Old and the New, The True and the False: Richard Davies’ Introduction ‘I am really floored by this’ is one of the things which Richard Wyn Jones says after hearing about Bishop Richard Davies’ amazing introduction to the Welsh New Testament published in 1567. Here is a lively literary piece which is incredibly interesting – and incredibly significant – in terms of Welsh identity in the period. It’s also a piece of Protestant propaganda which turns the truth inside out by portraying the Ancient Britons as some kind of proto-Protestants and claiming that the Protestant Reformation was returning their old faith to the Welsh rather than presenting them with a new one. But it also presents a kernel of truth of some kind while discussing the old wars between Wales and England, and it’s extraordinary to see Richard Davies discussing the English crown in such a negative manner, considering the fact that he was serving that crown as a bishop in the Church of England! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Prys Morgan, Beibl i Gymru (1988). - Glanmor Williams, ‘Richard Davies, Bishop of St. Davids, 1561-81’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1948, 147-169.…
 
Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad. Er bod rhai’n hoffi gweld y Beibl Cymraeg fel ‘iawndal’ Elizabeth I am yr hyn a wnaeth ei thad, Harri VIII, i’r Gymraeg gyda’r ‘Deddfau Uno’, dadleuwn i’r gwrthwyneb ac awgrymu bod y ddau ddatblygiad yn deillio o’r un cymhelliad gwleidyddol i ganol grym a sicrhau unffurfiaeth trwy’r deyrnas. Mae’n ddiddorol nodi felly mai unffurfiaeth wleidyddol a chrefyddol a nid unffurfiaeth ieithyddol a oedd yn bwysig i Elizabeth. Trafodwn gyfraniad yr Esgob Richard Davies a chodi pwnc a gaiff sylw yn y bennod nesaf hefyd – y ffug-hanesyddiaeth a alwodd Saunders Lewis yn ‘bropaganda’r Eglwys Brotestannaidd’. * In this episode we begin focusing on a subject which is of the greatest importance to the history of the Old Language and its literature – publishing the Bible in Welsh. We begin this time with the Welsh translation of the New Testament published in 1567, explaining that one needs to understand the political context as well as the religious context in order to understand this milestone development. Although some like to see the Welsh Bible as ‘compensation’ given by Elizabeth for that which her father, Henry VIII, did to the Welsh language with the ‘Acts of Union’, we argue the opposite and suggest that both developments stemmed from the same political desire to centralize power and ensure uniformity in the realm. It’s interesting to note that political and religious uniformity were important to Elizabeth, not linguistic uniformity. We discuss the contribution of Bishop Richard Davies and raise a topic which will also get attention in the next episode – the pseudo-history which Saunders Lewis called ‘The Protestant Church’s propaganda’. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Prys Morgan, Beibl i Gymru (1988). - Glanmor Williams, ‘Richard Davies, Bishop of St. Davids, 1561-81’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1948, 147-169.…
 
Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gyfeillgar ac adeiladol rhwng y ddau hyn yn cynnig golwg eithaf gwahanol. Gwelwn y bardd yn addasu hen gofensiynau’r canu mawl er mwyn canmol yr addysg a gafodd y dyneiddiwr yn Rhydychen, gan gynnig enghraifft wych o’r modd y mae’r hen a’r newydd yn ymgymysgu yn llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg. * * * The Bromance of William Salesbury and Gruffudd Hiraethog In the last episode it was seen that the humanist William Salesbury pays tribute to the bard Gruffudd Hiraethog in his introduction to the book Oll Synnwyr Pen Cymro. We look at the other side of the coin in this episode, and we do that by reading a praise poem which Gruffudd Hiraethog composed for the humanist. Although we sometimes see the professional Welsh poets and the humanists as two factions competing over the future of the Welsh language and its literature, the friendly and productive relationship between these two offers a very different view. We see the bard adapting the old Welsh panegyric conventions in order to praise the education which the humanist got in Oxford, providing an excellent example of the way in which the old and the new combines in Welsh literature of the sixteenth century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - D. J. Bowen, Gruffudd Hiraethog a’i Oes (1958). - D. J. Bowen (gol.), Gwaith Gruffudd Hiraethog (1990).…
 
Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth. * * * We discuss an incredibly exciting text in this episode, namely William Salesbury’s introduction to a book published in 1547, Oll Synnwyr Pen. We suggest that this introduction can be seen as a Welsh humanist manifesto, a call which presents an agenda for safeguarding and perfecting the language. William Salesbury used his Oxford education and his skill as an author to wake up readers and make them aware of the need: they had to ensure that Welsh would be a language of learning, a language which could discuss any aspect of society and thought, a medium capable of transmitting any kind of knowledge. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - R. Brinley Jones, William Salesbury (1994). - Gw. hefyd yr ysgrif berthnasol yn Nation.Cymru…
 
Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!). Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol (Lladin a Groeg), esgorodd dyneiddiaeth ar duedd ieithyddol arall – un sydd o’r pwys mwyaf o safbwynt hanes y Gymraeg, sef awydd i fireinio’r Hen Iaith a sicrhau’i bod hi’n gyfrwng sy’n addas er mwyn trafod a throsglwyddo dysg o bob math. * * * Welsh Humanism This episode presents a subject which will be central to the next episodes as well – sixteenth-century humanism. Because Glyndŵr’s rebellion failed, Wales did not have its own universities at the time, and so the privileged Welshmen with enough resources to attain a university education had to travel beyond the borders of their native country. We explain the terms ‘humanism’ and the ‘Renaissance’ (and note that nobody used the Welsh equivalents of them in the period we’re discussing!). Although many humanists across Europe concentrated on ‘the rebirth’ of the wealth of classical languages (Latin and Greek), humanism gave rise to another linguistic tendency – one which is of the greatest importance from the point of view of the history of Welsh, namely a desire to perfect the Old Language and ensure that it is a medium fit for discussing and transmitting learning of every kind. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Branwen Jarvis, ‘Welsh Humanist Learning’ in R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh literature c.1530-1700 (1976) Gw. hefyd y gyfres o erthyglau cydymaith a gyhoeddir ar gyfer ‘Yr Hen Iaith’ yn Nation.Cymru (See also the series of companion articles published for ‘Yr Hen Iaith’ in Nation.Cymru).…
 
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print. * * * The Welsh Language and the New World of Print This episode focuses on that all-important technological development, the printing press. Given that discussing the history of Welsh literature is this podcast’s aim, we should see the arrival of this medium as an incredibly transformative milestone as far as creating and disseminating literature is concerned. The first Welsh book was printed in 1546, and we explain the title-which-is-not-a-tile normally used in referring to it, Yn y Llyfr Hwn (‘In This Book’). Sir John Price was responsible for producing this landmark Welsh volume, but we note that he was a character who helped destroy some of Wales’ literary resources in addition to being responsible for pushing the Welsh language across the threshold of the world of print. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Graham C. G. Thomas, ‘From Manuscript to Print – II. Print’, yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A Guide to Welsh Literature 1530-1700 (1997). - R. Geraint Gruffydd, ‘Yny lhyvyr hwnn (1546): the earliest Welsh printed book, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 23.1 (Mai, 1969).…
 
Y
Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith podcast artwork
 
Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd. * * * Alis Wen In this episode we discuss a remarkably interesting female poet –Alis ferch Gruffudd or ‘Alis Wen’, who composed poetry in the sixteenth century. Men were the professional poets in the period, but Alis learned the poetic art and composed a number of verses using one of the old strict metres, the englyn unodl union. It’s very likely that her father, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, was her bardic teacher, and we see that her unique relationship with her father is given attention in some of her poems. Here is a rare female poetic voice from the period which manifests a Welsh woman’s honest feelings about love, marriage and society’s expectations. Although Welsh society in the period was oppressively patriarchal, we see Alis protesting and expressing a desire to follow her own heart instead of submitting to those expectations. In addition to expressing her opinion and her feelings in a forthright manner, she also does that in a wonderfully witty way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Gwen Saunders Jones, Alis ferch Gruffudd a’r Traddodiad Barddol Benywaidd (2015). - Cathryn Charnell-White(gol.), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001: An Anthology (2003).…
 
Loading …

Welcome to Player FM!

Player FM is scanning the web for high-quality podcasts for you to enjoy right now. It's the best podcast app and works on Android, iPhone, and the web. Signup to sync subscriptions across devices.

 

icon Daily Deals
icon Daily Deals
icon Daily Deals

Quick Reference Guide

Listen to this show while you explore
Play